P-06-1406 Cosbau ariannol i Awdurdodau Addysg Lleol nad ydynt yn cydymffurfio â'r amserlenni ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Victoria Anne Lightbown, ar ôl casglu 327 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru wedi nodi methiannau sylweddol gan awdurdodau addysg lleol o ran cydymffurfio â'r amserlenni ar gyfer

1) Nodi ADY

2) Cwblhau Cynlluniau Datblygu Unigol

3) Cydymffurfio â gorchmynion tribiwnlys

 

Credwn y dylai awdurdodau addysg lleol fod yn atebol am y methiannau hyn. Credwn y dylai fod cosbau ariannol i'r awdurdodau addysg lleol am y methiannau hyn.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Clwyd

·         Gogledd Cymru